Cyngor Cymuned Derwen yw llais y Llywodraeth Leol ar gyfer Cymuned Derwen a Chlawddnewydd a’u cyffiniau. Mae’r Cyngor yn cynnwys saith Cynghorydd Cymuned. Cynhelir cyfarfodydd ar y drydedd nos Fercher bob yn ail fis am 7.30 o’r gloch yn Festri Capel Derwen (Mai, Gorffennaf, Medi) ac yng Nghanolfan Cae Cymro (Tachwedd, Ionawr, Mawrth).
Mae’r wefan yma’n cynnwys gwybodaeth am waith y Cyngor. Gallwch ddod o hyd i’r Cynghorwyr ac i fusnes y Cyngor megis munudau, cyfrifon blynyddol, datganiadau o ddiddordebau personol y Cynghorwyr,
Beth mae’r Cyngor yn ei wneud?
Mae gennym gadeirydd etholedig ac is-gadeirydd. Mae gennym glerc sy’n gyfrifol am gadw cofnodion a gohebiaeth. Yn ystod ein cyfarfodydd byddwn yn ymdrin â materion lleol sydd o bwys o’r gymuned – megis llwybrau cyhoeddus, ffyrdd, draeniad, adeiladau, ac unrhyw gwynion byddwn wedi ei dderbyn gan y cyhoedd. Byddwn yn rhoi barn ar geisiadau cynllunio cyn danfon ein sylwadau i’r Cyngor Sirol. Rydym yn gosod precept bob blwyddyn. Byddwn yn achlysurol yn derbyn ymwelwyr i’r cyfarfodydd megis ein Plismon cymunedol neu ein A.S. lleol. Mae croeso i unrhyw un o’r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfodydd.